Criteria

Application Criteria

Applications are open to companies working in the UK, and across all platforms. Throughout the programme we are looking for diversity of voice, insight and experience. We encourage applications from all sections of the community.

Criteria for applicant companies:

1. Applicant companies must be game developers, game studios, or creators of interactive entrainment.

2. Applicant companies must have their office HQ in the British Isles and be able to demonstrate this.

3. Applicant companies must be able to submit the following materials at a minimum:

  • Game Playable Build, with any guidance or instructions on installation and play

  • Pitch deck for your game/one page pitch

    Applicants can strengthen their application by submitting the following materials in addition to the above:

  • Gameplay Trailer or Video of Gameplay

  • Video of you pitching the game (maximum 3 mins)

Please note that supporting materials do not needed to be submitted at the same time as your initial application, but they must be submitted before the deadline. Whilst you are asked to submit game playables and supporting materials containing your IP as part of the application process, Indielab Games will only view these materials in association with your application and will not replicate or distribute publicly.

4. Applicants also commit to playtesting other games from the cohort and giving feedback during the programme.


Gall cwmnïau sy’n gweithio yn y DU, ac ar draws pob platfform, gyflwyno cais. Drwy gydol y rhaglen, byddwn yn chwilio am lais, dealltwriaeth a phrofiad amrywiol. Rydym yn annog ceisiadau gan bob rhan o’r gymuned.

 

Meini prawf ar gyfer y cwmnïau a fydd yn ymgeisio:

 

1. Rhaid i’r cwmnïau fod yn ddatblygwyr gemau, yn stiwdios gemau neu’n grewyr adloniant rhyngweithiol.

 

2. Rhaid i bencadlys y cwmnïau fod yn Ynysoedd Prydain a rhaid iddynt allu dangos hynny.

 

3. Rhaid i’r cwmnïau gyflwyno’r deunyddiau canlynol fan leiaf:

  • Fersiwn Chwaraeadwy o’r Gêm, gyda chanllawiau neu gyfarwyddiadau ar osod a chwarae

  • Llwyfan cyflwyno ar gyfer eich gêm / un dudalen yn cynnig eich syniad

 

Gall ymgeiswyr gryfhau eu cais trwy gyflwyno’r deunyddiau canlynol, yn ychwanegol at yr uchod:

  • Rhagflas o’r Gêm neu Fideo o’r Gêm yn cael ei Chwarae

  • Fideo ohonoch yn ceisio gwerthu eich gêm (hyd at 3 munud)

 

Sylwer: nid yw’n ofynnol cyflwyno’r deunyddiau ategol ar yr un pryd â’ch cais cychwynnol, ond rhaid eu cyflwyno cyn y dyddiad cau. Er y gofynnir ichi gyflwyno fersiynau chwaraeadwy o’r gêm a deunyddiau ategol a fydd yn cynnwys eich IP fel rhan o’r broses ymgeisio, dim ond mewn perthynas â deunyddiau sy’n gysylltiedig â’ch cais y bydd Indielab Games yn gweld y deunyddiau hyn, ac ni fydd yn eu hatgynhyrchu nac yn eu dosbarthu’n gyhoeddus.

 

4. Hefyd, bydd ymgeiswyr yn ymrwymo i chwarae a phrofi gemau eraill gan aelodau’r garfan a rhoi adborth yn ystod y rhaglen.